Dyma'r swyddog yn ei gyffro,
"Cwyd yn awr, mae'th awr ar ben,
Ti gei gysgu hyd y mynot
Yn y bedd, dan gwg a sên."
Wedi gwisgo, dyma'r person
Yn dwyn iddo gair y Nef,
Tra'r carcharor yn ei wrando
Heb un teimlad ar ei wedd.
Buan aeth mynudau heibio,
Dyma'r crogwr yn dod mewn,
Tra mae cloch hen eglwys Pedr
Yn rhoi maes galarus swn.
Llywydd y carchardy hefyd,
Doctors a siryddion mawr,
Ymgasglasant i gael gweled
Cledd dialedd'n syrthio i lawr.
Maent yn symud 'nawr i'r grogbren,
Thomas dan ei rwymau'n dýn,
Tra'r offeiriad yn dwys adrodd
Geiriau cysur i'r dya blin;
Cnul y gloch sy'n llanw ei glustiau,
Pwy all ddweyd ei deimlad ef,
Pan yn sefyll cyn gwynebu
Iawn digofaint mawr y Nef?
Dros ei wyneb tynwyd capyn,
Neidiodd Billington naill law,
Ac yn sydyn hyrddiwyd Thomas
I grafangau brenin braw;
Bu y cwbl drosodd 'n union,
Codwyd baner du i lan,
Ac am awr bu'r corff yn hongian
Tra swyddogion yn gwylio'r fan.
Bellach, mae y cwbl drosodd,
Yn ein cof bydd hyn yn byw,
Ac fe fydd yn rhybudd i ni
Byth i gerdded llwybrau Duw.
Bechgyn ieuaine Gwlad y Bryniau,
Gwyliwch rhag temtasiwn ffol,
Neu daw Satan â'i rith-wenau
I'ch cofleidio yn ei gôl.