Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Chwychwi a brynwyd trwy ei waed,
Plygwch yn isel wrth ei draed;
Fe'ch tynnodd â thrugaredd gref :
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.

3 Boed i bob llwyth a phob rhyw iaith
Trwy holl derfynau'r ddaear faith,
Gydganu'n llafar iawn eu llef:
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.

4 Er bod eu beiau'n amal iawn,
Mae ganddo iechydwriaeth lawn ;
Eu cannu'n wyn wna Brenin nef:
Yn Arglwydd pawb coronwch Ef.


Edward Perronet (1721–1792)
Cyf penillion 1-3 Parch William Griffiths, Glan Dŵr (1777-1825)
Cyf pennill 4 Titus Lewis (1773-1811)

20[1] Addolwn Dduw
M. H.

1 ADDOLWN Dduw ein Harglwydd mawr
Mewn parch a chariad yma'n awr ;
Y Tri yn Un a'r Un yn Dri
Yw'r Arglwydd a addolwn ni.

2 Mae ganddo i'n gwasanaeth hawl,
A gweddus inni ganu mawl ;
Down ger ei fron â llafar gân,
Rhown iddo glod o galon lân.

3 Ei orsedd sydd yn nef y nef,
Sanctaidd a chyfiawn ydyw Ef;
I ddig y mae'n hwyrfrydig iawn-
Fe rydd o'i ras drugaredd lawn.

4 Y mae'i weithredoedd Ef bob un
Yn ei glodfori yn gytûn;
Ei fawr gadernid traethant hwy;
A'i enw a folwn ninnau mwy.


  1. Emyn rhif 20, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930