5 Mawr yw a chanmoladwy iawn,
Cyduno i'w ddyrchafu wnawn;
Bendithiwn byth ei enw Ef,
A chaiff y mawl holl ddyddiau'r nef.
——William Hugh Evans (Gwyllt y Mynydd) 1831—1909
21[1] Galwad i Glodfori Duw
M. H.
1 WRTH orsedd y Jehofa mawr
Plyged trigolion byd i lawr;
Gwybydded pawb mai Ef sy Dduw,
Yr Hwn sy'n lladd a gwneud yn fyw.
2 Â'i ddwyfol nerth, fe'n gwnaeth ei Hun
O bridd y ddaear ar ei lun ;
Er in, fel defaid, grwydro'n ffôl,
I'w gorlan, Ef a'n dug yn ôl.
3 I'th byrth â diolch-gân ni awn,
Cyfodi'n llef i'r nef a wnawn;
Doed pobloedd o bob iaith sy'n bod
I lenwi'r pyrth â llafar glod.
4 D'arglwyddiaeth Di sy dros y byd,
Tragwyddol yw dy gariad drud;
Saif dy wirionedd heb osgoi,
Pan beidio'r haul a'r lloer â throi.
—Isaac Watts (1674–1748)
Cyfieithiad — Parch John Hughes, Aberhonddu (1776—1843)
22[2] "Da y gwnaeth Ef bob peth."
M. H.
1 YN awr, mewn gorfoleddus gân,
Dyrchafaf glod i'm Harglwydd glân;
Ynghyda'i saint cydseinio wna':
Fy Iesu a wnaeth bob peth yn dda.
2 Trwy demtasiynau maith di-ri'
Bu'n gymorth cryf i'm henaid i;
Tra fyddwyf byw ei foli wna':
Fy Iesu a wnaeth bob peth yn dda.