2 Ni all meithder ffordd, nac amser,
Oeri dim o'i gariad Ef,
Mae ei fynwes byth yn dyner,
A'i gymdeithas byth yn gref;
Ni all dyfroedd angau llym
Ddiffodd ei angerddol rym.
3 Pan fo pawb yn cefnu arnom
Yn y dyffryn tywyll du;
Pan fo pob daearol undeb
Yn ymddatod o bob tu;
Saif E'n ffyddlon y pryd hyn,
Ac fe'n dwg yn iach trwy'r glyn.
4 A phan ymddangoso eilwaith,
Yng ngogoniant pur ei Dad,
Gyda'i holl angylion sanctaidd,
Mewn anrhydedd a mawrhad,
Fe geir gweld mai'r un fydd Ef,
Er mynd heibio'r byd a'r nef.
John Newton,
Efelychiad: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
201[1] Trysorau'r Groes
88. 87. D.
201
1 IESU ei Hunan yw fy mywyd—
Iesu'n marw ar y groes,
Y trysorau mwyaf feddaf
Yw ei chwerw angau loes;
Gwacter annherfynol ydyw
Meddu daear, da, na dyn;
Colled ennill popeth arall,
Oni enillir Di dy Hun.
2 Dyma ddyfnder o drysorau,
Dyma ryw anfeidrol rodd,
Dyma wrthrych ges o'r diwedd
Ag sy'n hollol wrth fy modd;
- ↑ Emyn rhif 201, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930