228[1] Cariad angerddol.
88. 88. D.
1 PA feddwl, pa 'madrodd, pa ddawn,
Pa dafod all osod i maes,
Mor felys, mor helaeth, mor llawn,
Mor gryf yw ei gariad a'i ras?
Afonydd sy'n rhedeg mor gryf,
Na ddichon i bechod na bai
Wrthsefyll yn erbyn eu llif,
A'u llanw ardderchog di-drai.
2 Fel fflamau angerddol o dân
Yw cariad f'Anwylyd o hyd ;
Fe losgodd bob rhwystrau o'i flaen,
Fe yfodd yr afon i gyd :
Ymaflodd mewn dyn ar y llawr,
Fe'i dygodd â'r Duwdod yn un;
Y pellter oedd rhyngddynt oedd fawr,
Fe'i llanwodd â'i haeddiant ei Hun.
- John Williams (Ioan ap Gwilym)
229[2] Rhyfeddodau Cariad Crist.
88. 88. D.
1 O! GARIAD, O! gariad mor rhad,
O! foroedd o gariad mor fawr:
Mab unig-anedig y Tad
Ddisgynnodd o'r nefoedd i'r llawr ;
Cymerodd ei wneuthur yn gnawd,—
Dynoliaeth â Duwdod yn un;
Bu farw ar groesbren dan wawd
Yn lle ei elynion ei Hun.
- David Jones, Treborth
230[3] Gwaredigaeth trwy Grist
88. 88. D.
O! AGOR fy llygaid i weled |