2 Llewyrcha i'n clonnau ni â'th ras,
Fel y bo gas in bechu,
Ac inni, mewn sancteiddrwydd rhydd,
Bob dydd dy wasanaethu.
3 Tydi addewaist ddysgu, Iôn,
Dy weision i lefaru,
Fel ym mhob man y caffo'n rhwydd
Yr Arglwydd ei foliannu.
4 O! Ysbryd Glân, i'n clonnau ni,
Y gwir oleuni danfon;
A hefyd sêl, tra fôm ni byw,
I garu Duw yn ffyddlon.
5 Dod fesur mawr o'th ras yn rhwydd,
O! Arglwydd Dduw Goruchaf:
Diddanwch inni felly bydd
Yn y brawd-ddydd diweddaf.
O'r Lladin,
Llyfr Gweddi Gyffredin.
247[1] Deffro, Fraich yr Arglwydd.
M. S.
O! DEFFRO, deffro, gwisg dy nerth,
O! brydferth fraich yr Arglwydd;
Fel yn y dyddiau gynt a fu,
Amlyga d'alluogrwydd.
2 I ennyn ynom nefol dân,
Duw, anfon dy Lân Ysbryd ;
Aed gyda'th eiriau sanctaidd Di
Nerth, a goleuni hefyd.
3 O! Arglwydd, dyro inni'n glau
Y tywalltiadau nerthol
O weithrediadau'r Ysbryd Glân,
A'u grym fel tân angerddol.
John Hughes, Pontrobert
- ↑ Emyn rhif 247, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930