248[1] Disgwyl wrth Dduw.
M.S.
1 O! ARGLWYDD Dduw, 'r Hwn biau'r gwaith,
Arddel dy faith wirionedd,
Fel byddo i bechod o bob rhyw
Gael marwol friw o'r diwedd.
2 Dy weinidogion gwisg â nerth,
Yn brydferth o'r uchelder;
A doed dy Ysbryd Sanctaidd Di
I argyhoeddi llawer.
1—Casgliad Morris Davies, Bangor
2—John Hughes, Pontrobert
249[2] Gweddi am Lanhad
M.S.
1 O! GOLCH fi beunydd, golch fi'n lân,
Golch fi yn gyfan, Arglwydd;
Ddwylaw a chalon, ben a thraed,
Golch fi â'th waed yn ebrwydd.
2 Bedyddia fi â'r Ysbryd Glân,
Fel tân pwërus nerthol;
Caiff ysbryd barn a llosgfa fod
Ar bechod yn wastadol.
3 Gwasgara weddill pechod cas,
Selia fi â'th ras yn drigfan,
Yn berffaith hardd, yn demel wiw,
Adeilad Duw ei Hunan.
William Williams, Pantycelyn
250[3] Gweddi am Oleuni'r Ysbryd
M. H.
1 TYRD, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr,
Datguddia ddyfnion bethau Duw;
Eglura inni'r enw mawr,
A gwna'n heneidiau meirw'n fyw.
2 Gad inni weld, yn d'olau Di,
Fod Iesu'n Arglwydd ac yn Dduw;
A than d'eneiniad rho i ni
Ei 'nabod Ef yn Geidwad gwiw.