3 O'i weled yn d'oleuni clir
Cawn brofi rhin ei farwol loes,
A thystio â llawenydd gwir
Mai'n rhan yw'r Hwn fu ar y groes.
4 Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, tyrd yn awr,
A gweithia ynom nerthol ffydd;
Ac yn dy hyfryd nefol wawr
Ein tywyll nos â'n olau ddydd.
Charles Wesley, (Cyf anhysbys)
251[1] O! Anadl, tyred
M. H.
1 BYWYD y meirw, tyrd i'n plith,
A thrwy dy Ysbryd arnom chwŷth;
Anadla'n rymus ar y glyn,
Fel y bo byw yr esgyrn hyn.
2 Dy Ysbryd sanctaidd, oddi fry,
Ddisgynno'n helaeth arnom ni;
Gwnaed ein calonnau ni bob un
Yn demlau sanctaidd iddo'i Hun.
John Hughes, Pontrobert
252[2] Gweddi am Sancteiddiad
65. 65. 66. 65.
1 O! TYRED i'n iacháu,
Garedig Ysbryd;
Tydi sy'n esmwytháu
Blinderau bywyd:
Er dyfned yw y loes,
Er trymed yw y groes,
Dwg ni bob dydd o'n hoes
Yn nes i'r gwynfyd.
2 O! tyred i fywhau
Y rhai drylliedig;
Tydi sy'n cadarnhau
Y gorsen ysig: