Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/256

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Fod Brawd a Chyfaill wedi'i gael,
I'r tlawd a'r gwael, na chilia;
Yn nyfnder profedigaeth gre'
Efe a gydymdeimla;
4 Fod modd i'r euog gael rhyddhad,
Fod gwir iachâd i'r clwyfus;
Trwy nerth ei air, fe rodia'n llon
Y cloffion a'r anafus.
5 Gobeithia f'enaid yn ei air,
Efe a bair orfoledd;
Pob loes a galar, tristwch, try
Yn ganu yn y diwedd.

Richard Jones y Wern, Llanfrothen


277[1] Cysuron y Gair.
8M. S.

1 DY nerthol air, Iôn, oddi fry,
A bery yn oes oesoedd;
Tydi sydd wedi cadarnhau
Dy eiriau yn y nefoedd.

2 Mor werthfawr yw dy air a'i rin
Mewn cystudd blin a chroesau;
Fe droir wylofain trist yn gân
Ar lwybyr glân dy ddeddfau.

3 Gobeithiaf yn y gair o hyd
Yng nghanol byd o ddychryn;
Mae'n gysgod rhag y gwynt a'r gwres,
Mae'n lloches rhag y gelyn.

Richard Jones y Wern, Llanfrothen



278[2]
Goleuni a Hyfrydwch y Gair.
M. S.

1 MAE yn y gair oleuni glân―
O! f'enaid, cân amdano—
I'r euog yn yr anial fyd,
I weld lle clyd i 'mguddio.


  1. Emyn rhif 277, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 278, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930