2 Dysg imi gerdded mwy bob cam,
Gan feddwl am d'orchmynion;
Boed ynddynt hwy fy serch a'm blys,
O wir ewyllys calon.
3 Tangnefedd Duw, fel afon gref,
O orsedd nef yn llifo,
A fydd i'r sawl a garo'r gwir,
Gan rodio'n gywir ynddo.
Richard Jones y Wern, Llanfrothen
279[1] Geiriau'r Iesu.
65. 65. D.

1 HYFRYD eiriau'r Iesu,
Bywyd ynddynt sydd;
Digon byth i'n harwain
I dragwyddol ddydd.
Maent o hyd yn newydd,
Maent yn llawn o'r nef;
Sicrach na'r mynyddoedd
Yw ei eiriau Ef.
2 Newid mae gwybodaeth
A dysgeidiaeth dyn;
Aros mae efengyl
Iesu byth yr un;
Athro ac Arweinydd
Yw Efe 'mhob oes;
A thra pery'r ddaear
Pery golau'r groes.
3 Wrth in wrando'r Iesu,
Haws adnabod Duw;
Ac wrth gredu ynddo
Mae'n felysach byw.
Mae ei wenau tirion
Yn goleuo'r bedd;
Ac yn ei wirionedd
Mae tragwyddol hedd.
Howell Elvet Lewis (Elfed)
- ↑ Emyn rhif 279, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930