Dengys hwn y golled erchyll
Gafwyd draw yn Eden drist;
Dengys hwn y ffordd i'r bywyd,
Trwy adnabod Iesu Grist.
Casgliad. T.Owen, Llanfyllin
285[1] Iechydwriaeth Rad. M. B.
1 MAE'R iechydwriaeth rad
Yn ddigon i bob rhai;
Agorwyd ffynnon er glanhad
Pob pechod cas a bai.
2 Daw tyrfa rif y gwlith
Yn iach trwy rin y gwaed:
Pwy ŵyr na byddaf yn eu plith,
Yn lân o'm pen i'm traed?
3 Er lleted yw fy mhla,
Er dyfned yw fy mriw,
Y balm o Gilead a'm hiachâ-
Mae Crist yn Feddyg gwiw.
4 Dan bwys euogrwydd du,
Edrychaf tua'r groes,
Lle llifodd gwaed fy Mhriod cu:
Anfeidrol Iawn a roes.
Peter Jones (Pedr Fardd)
286[2] Iechydwriaeth o Ras
M. B.
1 GRAS, O!'r fath beraidd sain!
I'm clust hyfrydlais yw:
Gwna hwn i'r nei berseinio byth,
A'r ddaear oll a glyw.