Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/274

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

313[1] Emyn Ordeinio
M.B.

1 ORUCHAF Iôr y nef,
A Llywydd daear lawr,
Gostwng dy glust a chlyw ein llef
Am fendith yma'n awr.

2 Gwêl yma ger dy fron
Genhadon hawddgar hedd;
Rho fedydd tân yr oedfa hon
I'w dilyn hyd eu bedd.

3 Boed weddaidd iawn eu traed
Ar hyd mynyddoedd gwlad,
Wrth draethu rhin y groes a'r gwaed,
A'r iechydwriaeth rad.

4 Rho eglurhad a nerth,
Wrth draethu gwerth yr Iawn,
Ac arwain at y Meddyg da
Dyrfaoedd drwy eu dawn.

5 Dal hwy mewn llafur dwys,
Nes tynnu'r gŵys i'r pen;
Ac iddynt rho, ar derfyn dydd,
Lawenydd nefoedd wen.

John Humphreys


314[2] Gweddi am lanhad yr Eglwys.
M.C.

1 GLALANHA dy Eglwys, Iesu mawr—
Ei grym yw bod yn lân;
Sancteiddia'i gweddi yn ei gwaith,
A phura hi'n y tân.


  1. Emyn rhif 313, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 314, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930