3 Aderyn to a gafodd dŷ,
A'r wennol fry i'w chywion
Le wrth dy allor Di i'w trin,
Fy Nuw a'm Brenin tirion.
4 O! gwyn ei fyd a drig i'th dŷ,
Caiff dy foliannu ddigon;
Ac ynot sy'n ymgadarnhau,
A'th lwybrau yn ei galon.
5 Ânt rhagddynt bawb o nerth i nerth,
Nes cael yn brydferth ddyfod
At Dduw i 'mddangos ger ei fron,
Yn Seion, ei breswylfod.
6 Gwell yw na mil un dydd i'th dŷ.
Am hynny mwy dewisol
Im fod ar riniog y drws tau,
Na phlasau yr annuwiol.
7 O! Arglwydd Dduw y lluoedd mawr,
Anfon i lawr dy gymod;
Dedwydd yw'r dyn a roddo'i gred
A'i holl ymddiried ynod.
—Edmwnd Prys
326[1] SALM XCII. 1, 12, 13.
M.S.
MOLIANNU'R. Arglwydd, da iawn yw,
A chyfarch Duw yn bennaf,
A da yw canu i'th enw fawl,
A'th ganmawl, y Goruchaf.
2 Y cyfiawn a flodeua i'r nen
Fel y balmwydden union;
Yn iraidd yn cynyddu y bydd,
Fel cedrwydd yn Libanon.
- ↑ Emyn rhif 326, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930