Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/288

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ymadael a Chapel M.C. Capel Celyn am y tro olaf ar ôl y gwasanaeth datgorffori

337[1] Gweddi wrth ymadael.
87. 87. 47.

1 DAN dy fendith, wrth ymadael,
Y dymunem, Arglwydd, fod;
Llanw'n calon ni â'th gariad,
A'n geneuau ni â'th glod:
Dy dangnefedd
Dyro inni yn barhaus.

William Griffiths, Glan Dŵr


338[2] Ffyddlondeb Duw i'w Eglwys.
87. 87. D.

O! NA bai fy mhen yn ddyfroedd,
Fel yr ŵylwn yn ddi-lai,
Am fod Seion, lu banerog,
Yng ngwres y dydd yn llwfwrhau;
O! datguddia y colofnau
A wnaed i'w chynnal yn y nos―
Addewidion diamodol
Duw ar gyfrif angau'r groes.

2 Mae bod yn fyw yn fawr ryfeddod
Mewn ffwrneisiau sydd mor boeth;
Ond mwy rhyfedd, wedi 'mhrofi
Y dof i'r canol fel aur coeth:
Amser cannu, diwrnod nithio,
Eto'n dawel heb ddim braw;
Y Gŵr a fydd i mi'n ymguddfa
Sydd â'r wyntyll yn ei law.

3 O! am ddyfod o'r anialwch
I fyny fel colofnau mwg.
Yn uniongyrchol at ei orsedd,
Nid oes yn ei wedd Ef wg:
Amen diddechrau a diddiwedd,
Tyst ffyddlon yw, a'i air yn un;
Amlygu mae ogoniant Trindod
Yn achubiaeth euog ddyn.

Ann Griffiths


  1. Emyn rhif 337, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 338, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930