Cariad fydd yn sylfaen gadarn
I bob anthem yn y nef;
Seintiau ac angylion draphlith
Canant am ei gariad Ef.
William Williams, Pantycelyn
381[1] Iesu dan yr Hoelion.
87. 87. D.
O! FY enaid, cod dy olwg,
Gwêl yn amlwg ben y bryn,
Lle bu Iesu, 'r Cyfaill ffyddlon,
Dan yr hoelion dur cyn hyn:
Talodd yno swm dy ddyled
A gwerthfawr waed ei galon friw;
Yr Oen dieuog yno'n marw,
A minnau'r euog yn cael byw.
Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach
382[2] Meddyginiaeth y Groes.
87. 87. D.
1 DEUED pechaduriaid truain
Yn finteioedd mawr ynghyd,
Doed ynysoedd pell y moroedd
I gael gweld dy ŵyneb-pryd;
Cloffion, deillion, gwywedigion,
O bob enwau, o bob gradd,
I Galfaria un prynhawngwaith
I weld yr Oen sydd wedi ei ladd.
2 Dacw'r nefoedd fawr ei hunan
'N awr yn dioddef angau loes;
Dacw Obaith yr holl ddaear
Heddiw'n hongian ar y groes;
Dacw Noddfa pechaduriaid,
Dacw'r Meddyg, dacw'r fan
Y caf wella'r holl archollion
Dyfnion sydd ar f'enaid gwan.