Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/315

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Dacw'r unig feddyginiaeth
Gadarn i druenus ddyn;
Mae pob gobaith wedi darfod
'Maes ohono Ef ei Hun:
Trwm a llwythog yw fy meichiau,
Poen euogrwydd sydd yn fawr;
Nid oes fan ond pen Calfaria
Gallaf roi fy mhen i lawr.

William Williams, Pantycelyn


383[1] Golwg ar Iesu.
87. 87. D.

1 MI edrychaf ar i fyny,
Deued twllwch, deued nos;
Os daw heddwch im o unlle,
Daw o haeddiant gwaed y groes;
Dyna'r man y gwnaf fy nhrigfan,
Dyna'r man gobeithiaf mwy:
Nid oes iechyd fyth i'm henaid
Ond mewn dwyfol farwol glwy'.

2 Gobaith f'enaid yw ei haeddiant,
Gobaith f'enaid yw ei rym ;
Tlawd a llesg, a gwan ac ynfyd
Ydwyf fi, heb feddu dim:
Trwodd draw yr wyf yn edrych,
Dros y bryniau mawrion pell,
Ac yn disgwyl fy ngorffwysfa
O gyfiawnder llawer gwell.
William Williams, Pantycelyn


384[2] Dyfnderoedd Iechydwriaeth.
87. 87. D.

1 MELYS cofio y cyfamod
Draw a wnaed gan Dri yn Un;
Tragwyddol syllu ar y Person
A gymerodd natur dyn:
Wrth gyflawni yr amodau,
Trist hyd angau'i enaid oedd:
Dyma gân y saith ugeinmil
Tu draw i'r llen â llawen floedd.


  1. ↑ Emyn rhif 383, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. ↑ Emyn rhif 384, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930