Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/318

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

389[1] Golwg o ben Nebo.
88. 88. D.

1 ADENYDD colomen pe cawn,
Ehedwn a chrwydrwn ymhell;
I gopa bryn Nebo mi awn,
I olwg ardaloedd sydd well :
A'm llygaid tu arall i'r dŵr,
Mi dreuliwn fy nyddiau i ben,
Mewn hiraeth am weled y Gŵr
Fu farw dan hoelion ar bren.

2 'Rwy'n tynnu tuag ochor y dŵr,
Bron gadael yr anial yn lân ;
Mi glywais am goncwest y Gŵr
A rydiodd yr afon o'm blaen;
Fe dreiglodd y maen oedd dan sêl,
Fe gododd y Cadarn i'r lan;
Mi a'i caraf Ef, deued a ddêl.
Mae gobaith i'r truan a'r gwan.


—Thomas William, (1761—1844)

390[2] Y Cyfamod Disigl.
98. 98. D.

1 Y GŴR a fu gynt o dan hoelion,
Dros ddyn pechadurus fel fi,
A yfodd y cwpan i'r gwaelod,
Ei Hunan ar ben Calfari;
Ffynhonnell y cariad tragwyddol,
Hen gartref meddyliau o hedd;
Dwg finnau i'r unrhyw gyfamod,
Na thorrir gan angau, na'r bedd.


—Hugh Derfel Hughes, Tregarth (1816—1890)


391[3] Teml yr Arglwydd yn y Nef
10. 10. 10. 10.

1 Agorwyd teml yr Arglwydd yn y Nef
A gwelwyd arch ei lân gyfamod Ef;
Holl ryfeddodau Person Crist a'i waith
A welir yno i dragwyddoldeb maith.


  1. Emyn rhif 389, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 390, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  3. Emyn rhif 391, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930