Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/320

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

393[1] Ymorffwys ar Aberth y Groes
11. 11. 11. 11.

1 FY enaid, ymorffwys ar aberth y groes,
'Does arall a'th gyfyd o ddyfnder dy loes:
Offrymodd ei Hunan yn ddifai i Dduw,
Yn haeddiant yr aberth mi gredaf caf fyw.

2 Mae munud o edrych ar aberth y groes
Yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes ;
Mae llewyrch ei wyneb yn dwyn y fath hedd,
Nes diffodd euogrwydd a dychryn y bedd.

—William Edwards, Bala (1773—1853)

6.—EMYNAU CENHADOL.

Penodau cyfaddas i'w darllen mewn Cyfarfodydd Cenhadol :- Salm ii., xix., lxxii., c., cxv., cxxii. Esaia ii., xi., xxxv., xl., xlii., xliv., xlix., lii., liii., lv. lx., lxi., lxii., lxv. Jeremia x., xxxi. Ezeciel xxxvii. Daniel ii. Mica iv. Matthew xx. Actau ii., x. Rhufeiniaid x. Datguddiad xx., xxi.


394[2] Y Genhadaeth.
M. C.

1 CENENHADON hedd cânt ddwyn ar frys
Efengyl gras ein Duw
I bob rhyw fan ym mhellter byd
Lle trigo dynol-ryw.

2 Mynegant am y cymod gwiw
A ddaeth trwy bwrcas drud,
A'r ffynnon hyfryd sy'n glanhau
Aflendid mwya'r byd.

3 Fe lonna'r gwyllt farbariad gwael,
Fe lama'r Ethiop du,
Wrth glywed am anfeidrol Iawn
A gaed ar Galfari.

—David Charles, Caerfyrddin (1762—1834)

  1. Emyn rhif 393, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 394, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930