425[1] O! tyred Di, Emmaniwel
88. 88. 88.
1 O! TYRED Di, Emmaniwel,
A datod rwymau Israel
Sydd yma'n alltud unig trist,
Hyd ddydd datguddiad Iesu Grist;
O! cân, O! cân: Emmaniwel
Ddaw atat ti, O! Israel.
2 O tyrd, Flaguryn Jesse'n awr,
A dryllia allu'r gelyn mawr;
Rho fuddugoliaeth trwy dy wedd
Ar uffern ddofn, ac ofn y bedd:
O! cân, O ! cân, &c.
3 O! tyred, Olau'r Seren Ddydd,
Diddana ein calonnau prudd:
O! gwasgar ddu gymylau braw,
A chysgod angau gilia draw:
O! cân, O ! cân, &c.
4 O! tyrd, Fab Dafydd, agor Di,
Yn llydain byrth y nef i ni:
Palmanta'r ffordd sy'n arwain fry,
A chau holl lwybrau pechod hy:
O! cân, O ! cân, &c.
O'r Lladin,
cyf John Daniel Vernon Lewis
426[2] Goruchafiaeth yr Efengyl
98. 98. D.
1 DAW miloedd ar ddarfod amdanynt
O hen wlad Assyria cyn hir,
Preswylwyr yr Aifft ac Ethiopia,
At Grist y Gwaredwr yn wir ;
Cyflawnir y proffwydoliaethau,
Daw'r holl addewidion i ben,
Fe dynnir myrddiynau at Iesu
Ddyrchafwyd rhwng daear a nen.