Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4 SALM XIX.

Y NEFOEDD sydd yn datgan go- | goniant
| Duw ; || a'r ffurfafen sydd yn mynegi | gwaith
ei | ddwylaw | Ef. ||
2 Dydd i ddydd a draetha ym- | adrodd, || a
nos i nos a | ddengys wy- | bodaeth. ||
3 Nid oes iaith nac ym- | adrodd, || lle ni
chly- | buwyd: eu llef- | erydd | hwynt. ||
4 Eu llinyn a aeth trwy yr | höll | ddaear,
a'u geiriau hyd eith- | afoedd | byd ; ||
5 I'r haul y gosododd Efe babell ynddynt ;
yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod | allan o'i
ys- tafell; ac a ymlawenha fel | cawr i | redeg
| gyrfa. ||
6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan,
a'i amgylchiad hyd eu heith- | afoedd | hwynt; ||
ac nid ymgudd dim oddi | wrth ei | wrës | ef. ||
7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn | troi
yr enaid; || tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr,
ac yn gwneuthur y gwirion yn | ddoeth. ||
8 Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawen-
|hau y galon; || gorchymyn yr Arglwydd sydd
bur, yn go- | leuo y | llygaid. ||
9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn par- | hau
yn dragywydd; || barnau yr Arglwydd ydynt
wirionedd, cyfiawn | ydynt i | gyd. ||
10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag | aur
coeth | lawer; || melysach hefyd na'r mêl, ac na
di- | feriad | diliau | mêl. ||
11 Ynddynt hwy hefyd y rhy- | buddir: dy | was; ||
o'u | cadw y mae | gwobr | lawer. ||
12 Pwy a ddeall ei gam- | weddau? || glanha
fi oddi wrth fy | meiau: cudd- | iedig. ||