Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/481

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac er fy rhoi'n y llwch
Mewn twllwch dros ryw hyd,
Ni'm cleddir o'i ŵydd E'
Mewn lle'n y byd.

3 Er gorwedd yn y bedd,
Fy annedd fud,
Daw'r Iesu i'm codi'n llon
Gerbron ryw bryd:
A'm llygaid i a'i gwêl-
Mae'r gair dan sêl yn wir-
Ar newydd ddedwydd ddydd,
Boreddydd clir.

William Ellis (Gwilym ab Ellis)


660[1] Glan Iorddonen.
65. 65. 66. 65.

1 AR lan Iorddonen ddofn
'R wy'n oedi'n nychlyd,
Mewn blys mynd trwy, ac ofn
Ei stormydd enbyd:
O! na bai modd i mi
Osgoi ei hymchwydd hi,
A hedfan uwch ei lli
I'r Ganaan hyfryd.

2 Wrth gofio grym y dŵr,
A'i thonnog genlli
A'r mynych rymus ŵr
A suddodd ynddi,
Mae braw ar f'enaid gwan
Mai boddi fydd fy rhan,
Cyn cyrraedd tawel lan
Bro y goleuni.

3 Ond pan wy'n gweled draw
Ar fynydd Seion,
Yn iach, heb boen na braw,
Fy hen gyfeillion,

  1. Emyn rhif 660, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930