Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/506

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd,
Pa bryd i'th gynteddau caf ddod,
Lle ni bydd cynlleidfa yn ysgar,
Na diwedd i'r Sabbath yn bod?
Dedwyddwch digymysg sydd yno,
Ni phrofwyd yn Eden mo'i ryw,
A llewyrch mwy tanbaid na'r heulwen,
Sef llewyrch o orsedd fy Nuw.

3 Mae yno gantorion soniarus,
A'u Ceidwad yw sylwedd eu sain;
A'm brodyr sydd yma cânt esgyn
Yn fuan i ganol y rhain :
O! Salem, fy nghartref anwylaf,
I'th fewn mae fy enaid am ddod ;
Ac yno fy llafur a dderfydd
Mewn cân orfoleddus a chlod.

—Anhysbys Cyfieithydd David Charles (1803-1880)

703[1] Ail Ddyfodiad Crist.


10. 10. 10. 10. 11. 11.



WEL Grist yn dyfod ar y cwmwl draw,
A phob awdurdod yn ei nerthol law;
Ceriwbiaid fyrdd, yn eu cerbydau tân,
Yn gyrru'n glau o gylch eu Harglwydd glân;
Y ddaear gryn, y beddau ymagorant;
Cân utgorn Duw, a'r meirw a gyfodant.

Benjamin Frances



704[2] Golwg ar Ogoniant y Nef

10. 10. 10. 10. 11. 11.

TRWY gywir ffydd, O! esgyn, f'enaid cu;
Gwêl dy breswylfod uwch yr ŵybren fry;
Ni ddeall dyn ac ni all tafod chwaith
Byth adrodd maint ei phur ogoniant maith.
Teyrnasu mae yr Iesu yn fuddugol,
Angau a'r bedd orchfygwyd yn dragwyddol.


  1. Emyn rhif 703 yn Llyfr Emynau Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 704 yn Llyfr Emynau Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930