Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ffurf rymus hon drwy ddywedyd, "ac yn ddisymwth cymerodd daeargryn mawr le." Y mae geiriau trystfawr mor annymunol a brawddegau cwmpasog, a threth ar lygad yw edrych ar eiriolaethol, mawreddogrwydd, eithriadoldeb, enghreifftioli, gwynfydedigrwydd, &c. Dyfynnwn adroddiad gohebydd o gwrdd darlith, - "Yr oedd G. yn ei afiaith hapusaf, a phrofodd ei athrylith mewn craffter a delfryd elfennau gwahanredol y ddyheuadaeth Gymreig mewn mynegiaeth fydryddol, gain ac angerddol, eto ddifyr. Rhaid yw i'r anianawd Gymreig ddatblygu yn y fath awyrgylch gydnaws gynhyrcha rhaglen fyw y gymdeithas hon, gyda'r llywydd a'r ysgrifennydd pybyr." Cydnebydd y golygydd yn ostyngedig fod yn y paragraff bethau nad ydyw'n eu deall. Dylid bod yn syml ar air a brawddeg.

Ni ellir achwyn llawer pan gofir bod amryw lenorion heddyw yn sylfaenu eu sillafiaeth a'u harddull ar lyfrau fel yr Ysgrifell Gymreig a gyhoeddwyd flynyddoedd yn ôl gan Tegai. Ymhlith gwallau tybiedig eraill a geir ym Meibl Peter Williams, noda'r Ysgrifell y canlynol,-capten yn lle cadbên, diben yn lle dyben, pâratoi yn lle pârotoi. Ceir gweled mai diben a paratoi sy'n gywir ac mai cwacyddiaeth ddiystyr sy'n cyfrif am dyben a parotoi. Y mae cadben yr un mor anhyfryd. Glyner wrth capten er gwaethaf pob ysgrifell a awgrymo'n wahanol.

Dywed ymhellach fod "ychain " yn well nag "ychen." Y gwrthwyneb sy'n gywir, fel y gwelir oddiwrth odlau'r hen feirdd. Yn gymharol ddiweddar y daeth ychain i fri. Ysgrifenner ychen a Rhydychen. "Pum iau o ychen (nid ychain) a ddylai fod yn Luc 14, 19, a gwerthu ychen" (nid ychain) yn Ioan 2, 14 12