Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

14

LLYFR GLOYWI CYMRAEG.

â'r ddeddf, dylid wrth corun (Llad., corona), eithr am ryw reswm neu 'i gilydd, fe sgrifennir coryn. Dylid hefyd wrth testun (Llad., testimonium), ond fe'i trowyd yntau'n testyn. Edrycher ar enghraifft arall. Y mae'r u hir yn y Lladin yn aros yn u yn y Gymraeg, megis astrus (Llad., abstrusus), astud (Llad., astutus), cyinun (Llad., communio). Yn unol â'r gofyn, dylid wrth ysgrythur, gan ei fod yn deillio o'r Llad. scriptura, ond fe'i camsillefir yn ysgrythyr gan fwyafrif ysgrifenwyr Cymraeg.

Treiglwyd llythrennau o gyfnod i gyfnod yn unol ag egwyddorion sydd yn weddol amlwg a dealladwy. Er enghraifft, pan ddigwyddai dd ddyfod ar ol l, n, ac r, neu o flaen l ac r, fe'i troid i'r sain galed d. Y mae gormod o hyd yn gormodd mewn rhannau o Sir Gaerfyrddin. Daeth machlud o'r ffurf gynharach ymachludd. Eithr fe ddiystyrir un o ddeddfau datblygiad yr iaith pan ddywedir gweddrod yn lle gwedrod a boddlon yn lle bodlon. (P’un a geir y deheriwr i ddywedyd bodlon a gwedrod ai peidio, sy bwnc arall).

Newidiwyd ambell air gan rywrai'n gymharol ddiweddar i'w gysoni o ran ei ffurf á geiriau eraill y tybid ei fod yn perthyn iddynt. Dyna'r gair glaw: Ni cheir ond hynny mewn Hen Gymraeg, ac ni ddywed neb, heb iddo fynd o'i ffordd, ond glaw heddyw. Eithr gan fod y glaw yn perthyn o ran ei natur i gwlybaniaeth ac y yn peri i ddynion wlychu neu fod yn wlyb, barnodd rhywrai y dylid dywedyd gwlaw. Gwnaed yr un modd â'r gair Iddew. Dywedodd rhywun wrthyf nad oedd yn cydfynd â thorri pen yr Iddew. Bwriai y dylid cadw'r u ac ysgrifennu Iuddew. Eithr i bwrpas llen- yddiaeth Gymraeg ni bu ganddo ben o gwbl, chwedl y brawd, a pha Gymro heddyw a ddywed I-u-ddew. Y