Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

YR ORGRAFF. 15

mae'r iu yn y Lladin yn troi'n i yn y Gymraeg, fel yn yr hen air isgell (soup) o iuscellum, a gresyn na chedwid ffurf fel Iddas yn lle'r gair Saesneg Judas a'r gair Suddas a luniwyd o hono. Yn awr, beth yw amcan yr Orgraff Newydd ac inni dderbyn y term am y tro ? Amcan yr Orgraff Newydd yw mynd y tu ol i'r tyfiannau anhrefnus a diweddar hyn a chywiro'r torri a fu ar ddeddfau'r iaith. Nid orgraff newydd mohoni, ond cynnig i buro'r hen oddiwrth eiriau mympwy a ffurfiau gau a chwanegwyd ati gan goegddysg ddiweddarach. Cais lunio'r iaith wrth egwyddorion ieithyddiaeth Gymraeg, gan roi inni ffurfiau sydd yn fwy ffyddlon i draddodiad llenyddol yr iaith ac i ymadrodd gwerin y dyddiau hyn. Nid yw chwaith yn adfer yr hen ddulliau ond lle bo iaith fyw heddyw yn galw arnynt o'u beddau ac yn eu hatgyfodi i ddymchwelyd twyll-eiriau sillafwyr di-ddysg a di-ddawn. I ba raddau y mae hyn yn bosibl ac yn werth y drafferth bob amser sy bwnc astrus. Ymddengys fel pe daethai rhai ffurfiau i aros. Dyna'r gair bodlon y cyfeiriwyd ato. Nid oes unrhyw betrusder yn y byd nad hi yw'r ffurf lenyddol gywir, modd y ceir hi gan Ddafydd ab Gwilym, — “O buost, riain feinir, Fodlon ym dan fedwlwyn ir.” Eithr erbyn hyn troes yn bòlon yn y Deheudir, ac anodd gan Ddeheuwyr adfer y d. A dyna gynffon yr arddodiad. Gwyr y neb a ddarllenodd ei Fabinogi mai unt ydyw mewn Hen Gymraeg, megis atunt, wrthunt, arnunt, &c. O’u camarwain, ysgrifennwyd atynt, wrthynt, arnynt, &c., gan ysgrifenwyr Cymraeg y tair canrif ddiweddaf. Beth a wneir â'r gynffon hon ? Prin y tybia llawer fod galw arnom i ymflino'n ei chylch. Bydd petruso