Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

16

LLYFR GLOYWI CYMRAEG.

hefyd rhwng heddiw a heddyw, dywedyd a dywedud, cynnig a chynnyg, tebig a tebyg, perigl a perygl. Gall fod ambell air a sillaf arall â'u ffurf arferedig anghywir yn gwrthod ildio i'r ffurf lenyddol gywir, a pharod yw rhai i ddadleu nas dylent. Y mae iddynt eu lle, meddir, oherwydd hir arfer arnynt.

Ac eithrio ychydig o fân anawsterau, y mae'r Orgraff Newydd eisoes wedi safoni a sefydlogi'r iaith i gryn fesur. Hyd yn ddiweddar, cywirai'r naill wr Gymraeg y llall yn unol â'i dyb ei hun nad oedd iddo ystyr yn fynych nac yng ngoleuni datblygiad yr iaith na'r arfer sydd arni heddyw. O dipyn i beth ymwrthyd Cymru lenyddol ag ysbryd talaith ar y pwnc, ac anghofia dynion eu mympwyon personol. Y mae'r orgraff yn llawer mwy. unffurf nag ydoedd hyd yn oed ddeng mlynedd yn ol. Lle bu gan swyddfa argraffu ei horgraff ei hun neu 'i diffyg orgraff, mabwysiedir yn raddol y ffordd newydd sillafu. Fe'i harferir yn ein Hysgolion Sir, ac fe'i dilynir â graddau gwahanol o gywirdeb gan awduron llyfrau Cymraeg. Fe'i mabwysiedir yn gyflym gan ieithwyr a llenorion blaenaf y genedl. Ni fentrir anfon nac awdl na phryddest i Eisteddfod heb ryw gymaint o graff arni. Bu cyhoeddi geiriadur newydd Spurrell, a'r Parch. J. Bodvan Anwyl yn olygydd arno, yn hwylustod mawr iddi, ac er y digwydd ynddo ar dro y ffurf anghywir yn ymyl y ffurf gywir, nid â neb ymhell o'i le o bydd wrth ei benelin. Daeth ffrwd o oleuni ar yr iaith nas troir yn ei hol. Y mae gwyro oddiwrth yr Orgraff Newydd eisoes yn brawf naill ai o anwybodaeth dwfn neu o ystyfnigrwydd anfaddeuol. Pechu'n erbyn y goleuni a wna'r neb nas derbynio.