Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

18

LLYFR GLOYWI CYMRAEG.

7

(6) j yn Jacob, Judea, tragedi, &c. S ac i yw'r llythrennau Cymraeg sy'n cyfateb iddi, eithr pur anaml y dywedir Ierusalem, Iona, &c. Dylid arddel y j bellach yn nheulu'r Abiec.

5. Ceir u ac y yn cynrychioli'r un sain, c.e., crud, dyn.

Ni bu felly erioed, eithr bu cymysgu cynnar arnynt. Pe glynem wrth y traddodiad cyntaf, ysgrifennem arnunt yn lle arnynt, ysgrythur (o'r Llad. scriptura) yn lle ysgrythyr, testun (o'r Llad. testimonium) yn lle testyn, corun (o'r Llad. corona) yn lle coryn, &c. Y mae'n hwyr o'r dydd i ail godi ffurf fel arnunt, eithr nid anodd yw arfer eto ysgrythur, testun, credadun, &c. Yn y De ni wahaniaethir rhwng seiniau u, y, ac i. Yr un sain a roddir i “hin ” (weather), "hun" (sleep), “hện” (older).

6. Y mae ff a ph yn cynrychioli'r un sain. Cofiaf i Mr. Owen Owen, Arolygwr yr Ysgolion Canolradd y pryd hwnnw, ac ef yn ymweled â'r ysgol yn Llanelli, pan oeddwn yn hogyn yno, ofyn pam yr ysgrifennid corph yn hytrach na corff. Ei amcan oedd gweld a wyddai neb wreiddyn y gair. y Corpus” yw'r Lladin, a thybia llawer y dylid ysgrifennu corph i ddangos y gwreiddyn. Am yr un rheswm yr ysgrifennir sarph (o'r Llad. ser pens) yn lle sarff, a philosophi er mwyn cynrychioli'r Groeg mor ffyddlon ag yw'n bosibl. Eithr bydd eisiau sgrifennu Cymraeg tra fo'r dysgedigion wrthi'n olrhain y gwreiddiau. Gwell yn y cyfamser yw rheol eglur a syml fel hon,- Lle bo'r sain wedi'i threiglo o'r llythyren ysgrifenner “ph.” Ymhob achos arall ysgrifenner “ff," eithrio enwau priod fel Pharisead, Philistiad, Phylip, &c.