Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

YR ORGRAFF.

19

Gwelir na ellir ph ond ar ddechreu gair, megis yn ei phriod, ei phen, eithr y gellir defnyddio ff ar ddechreu, yng nghanol, ac ar ddiwedd gair, c.c., ffrind, ffilosoffi, gorffwys, corff, sarff. Awgryma'r Athro Syr J. Morris Jones ddefnyddio ph mewn geiriau cyfansodd fel chwe-phunt, &c.

3.-LLAFARIAID HIR A BYR. Dynodir hyd llafariaid drwy gynhorthwy'r hirnod (^) a thrwy gadw'r ddwy gydsain wreiddiol. Ni chedwir ond yr n a'r r ddwbl. Mewn Hen Gymraeg fe'u dyblid yn ddieithriad mewn geiriau un sillaf. Nis gwneir yn awr ond er mwyn osgoi cymysgu ar eiriau. Y mae'n rhaid eu dyblu wrth ychwanegu sillaf, megis pen, pennau. Yr hirnod yw'r unig arwydd a ddefnyddir i ddynodi hyd llafariaid. Wele 'i ddeddf.

1. Rhoddir yr hirnod i bob llafariad hir ac eithrio į ac u, e.e., tâl (pay), tôn (tune), gŵr (man, husband). Y mae cytûn, bûm, ynghyd â'r ffurfiau cyfansodd canfûm, gwybûm, adnabûm, &c., yn eithriadau, gan fod yru yn cynrychioli dwy wreiddiol. Talfyriad yw cytûn o cytu-un, a bûm o bu-um.

2. Fe'i defnyddir fynychaf mewn geiriau unsillaf pan fo'n gorffen ag un gydsain. Pan fo dwy gyd- sain neu un gydsain yn cynrychioli dwy wreiddiol yn diweddu'r gair, y mae'r llafariad yn fer, ac nid oes eisiau'r hirnod.

3. Er i air un sillaf orffen ag un gydsain ac i'r llafariad oherwydd hynny fod yn hir, ni ddefnyddir yr hirnod ond pan fo’n gorffen ag l, n neu r.

e.e., gwâl, gwên, gwâr