20 LLYFR GLOYWI CYMRAEG.
Ni ellir, felly, ddefnyddio'r ^ mewn geiriau fel bod, nod, tad, teg, ag, oll, &c. Gwelais awgrymu'r gair Elinor yn gyfrwng cofio'r rheol hon.
Eithriadau,—
(a) Nis defnyddir ynglŷn â geiriau cyffredin fel hen, dyn, ol, er iddynt orffen ag I, 2, neu .
(b) Fe'i ceir mewn geiriau fel bôm, er na therfynant ag l, n neu r, oherwydd eu bod yn ffuríìau talfyredig. Fe'i cedwir am yr un rheswm yn glanhâf, glanhâd, &c.
(e) Fe'i defnyddir yn y gair nâd (cry) i'w wahan- iaethu oddiwrth nad (moí).
4. Pan fo llafariad yn gorffen gair, y mae bob amser yn hir, e.c., lle, tŷ, to, &c., ac eithrio'r geiriau diacen fy, dy. Nid oes eisiau felly roddi'r hirnod iddynt ond
(a) lle bo galw am wahaniaethu rhyngddynt â geiriau o gyffelyb sillafìaeth.
e.e. â, with, as. a, and. dy, thy. dŷ, house.
(6) lle bo'n ffurf dalfyredig, e.e., glanhâ.
5. Er i ddwy gydsain orffen gair a galw am i'r llafariad fod yn fer, fe ddigwydd ei bod yn hir ambell waith, sef mewn ffurfiau talfyredig. Defnyddier yr hirnod y pryd hwnnw.
e.e., cânt (they shall have), bywhânt, &c.
6. Y mae'r a a'r o yn y terfyniadau au, ai ac oî yn hir gan amlaf pan fônt yn ffurfiau talfyredig, ac yna gofynnant am yr hirnod.
e.e., Daw plâu (plagues) o pla-au, bwâu (bos) o bwa-au, gwnâi o gwna-ai, trôi o tro-ai.