Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR

O BRYD i bryd yn Seren Cymru, ceisiais ateb gofyniadau'r darllenwyr oedd am ddysgu'n fanylach ddeddfau gramadeg yr Iaith Gymraeg. Bu'r gwaith yn fwynhad mawr i mi, a diolchwyd i mi droeon am f'ysgrifau. Cynnwys Colofn Gloywi Cymraeg yw'r llyfr hwn. Gwelir i mi gadw'r ffurf holi ac ateb mewn llawer pennod. Dichon y bydd y termau gramadeg yn dramgwydd i ychydig, a byddai'n dda gennyf petawn wedi llwyddo i draethu'n fwy diddorol ar bwnc mor bwysig. Ni fynnwn gredu bod y gwaith hwn yn berffaith, ond credaf yr ategir y cwbl ymron gan y sawl a ŵyr ddim am hanes a rheolau'r iaith. Ychwanegais bennod fer ar yr Orgraff Newydd er mwyn y neb a dybio nad yw honno yn ddim mwy na defnyddio awdur yn lle awdwr. Rhoddais yr enghreifftiau gan mwyaf yn iaith y seiat, gan hyderu y bydd yn haws cofio gwers mewn adnod.

Bu Syr John Morris Jones, M.A., mor garedig â darllen y proflenni, ac ni byddai'r llyfr mor gyflawn a chywir oni bai am ei gymorth gwerthfawr. Ychwanegir yn fawr at ddyled y genedl i'r Athro dysgedig pan gyhoeddir ei ramadeg newydd. Gobeithiaf y bydd i'r hyn a geir yma symbylu'n llenorion ifainc i'w perffeithio'u hunain yn y gamp glodfawr o sgrifennu Cymraeg graenus a phur.

R. S. ROGERS.

ABERTAWE,

Gorffennaf, 1920.