Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLYFR GLOYWI CYMRAEG

——————♦—♦——————

I

CYMRAEG HEDDYW

RHODDIR sylw deublyg i'r Gymraeg heddyw. Ar y naill law ymdrechir ei chadw yn iaith gwerin Cymru, ac ar y llaw arall ceisir ei gwaredu rhag elfennau a ddifwyna 'i horgraff a'i chystrawen. Rhydd amryw bapurau Cymraeg golofn at wasanaeth y "gloywi, " a chaiff ein llenorion ifainc gyfarwyddyd a chyfle i sgrifennu'n gywir a glân.

Gwelir gwell graen ar yr hen famiaith annwyl yn fuan. Enillir ni'n raddol i sgrifennu'n syml ac yn firain, ac i osgoi ffurfiau trwsgl a chwmpasog. "Y cyfieithiadau a gawsant eu gwneuthur, "ebe rhywun yn ddiweddar, pryd y byddai "y cyfieithiadau a wnaed" yn cyfleu ei feddwl mewn grymusach ymadrodd. "Yr oedd y gweision yn cael edrych i lawr arnynt," ebe arall, yn lle dywedyd yn syml, "diystyrid y gweision." Wele enghreifftiau eraill o'r dull cwmpasog o sgrifennu—"Y mae ei ddatblygiad wedi bod yn fwy graddol nag eiddo Ioan." Paham na ddywedid "bu ei ddatblygiad," &c., neu datblygodd yn fwy," &c. Eto, "rhaid dyddio cychwyniad ei boblogrwydd cyn ei fynediad i'r coleg." O droi'r frawddeg athrylithgar hon i'r Gymraeg, byddai'n debig i hyn,—"yr oedd yn boblogaidd cyn iddo fynd i'r coleg. " Y mae rhaid dyddio cychwyniad " yn wir arswydus. Saesneg rhonc yw'r