Tudalen:Llyfr Gloywi Cymraeg.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

frawddeg ddilynol,- "pechodd Israel mewn myned ar ôl duwiau dieithr." Prin y mae eisiau rhoddi'r gwreiddiol, "Israel sinned in going after strange gods." Wele enghraifft odidog o Saesneg mewn diwyg Gymreig,-"Dywedodd Will Crooks yn y cyfarfod hwnnw yn y Guild Hall iddo fod mewn cynadleddau yn yr Almaen, ac y mae'n cydnabod yn rhwydd iddo gael ei wneuthur."' Gellid tybied mai yn yr Almaen y gwnaed annelwig ddefnydd Mr. Will Crooks. Eithr nid yw'r ymadrodd ond dull gwerin y gŵr parchus hwnnw o fynegi ei dwyllo gan yr Ellmyn. Wele ddarn arall llawn cystal,- "Yr anghyfiawnder, -yr ydwyf yn siarad yn agored, -yr ydym yn ei gyflawni, bydd inni ei wneud yn dda." Canghellor yr Almaen biau'r geiriau, fel y gwelir ar unwaith. Yn anffodus, "gwneuthant eu hanghyfiawnder yn rhy dda, eithr a bod yn deg â'r Canghellor, addo iawn i Belgium yr oedd am y "drespas." "We shall make good the injustice," oedd o flaen llygaid y Cymro, a chyfieithodd y llythyren yn hytrach na'i synnwyr. Penderfynodd rhyw gwrdd adran yn ddiweddar wneuthur "taer apeliad " at ynadon y gymdogaeth. Byddai'n well ei gadw yn ei ffurf briod,-"it was resolved to make a strong appeal, " pe na ellid dywedyd yn syml, "apelio'n daer." Y mae cam-drin dybryd ar y frawddeg "cymeryd lle." (Cymryd yw'r gair priodol). Y mae deg pwyllgor wedi cymeryd lle," ebe ysgrifennydd eisteddfod Cwmheble. Beth sydd o'i le ar "cyfarfu'r pwyllgor ddengwaith"? Dywedir wrth gyhoeddi cynhebrwng,- "cymer yr angladd le," neu wrth gyhoeddi damwain, "cymerodd damwain le." Y mae'n hawdd osgoi cyfieithu "take place" yn llythrennol, drwy ddefnyddio "bydd" neu "bu "digwyddodd." "Ac yn ddisymwth bu daeargryn mawr (Act. 16, 26). Tybia llawer y gallant ragori ar