Tudalen:Llyfr Owen.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENWYR

MEWN bwthyn yng Nghymru y ganed Syr Owen Edwards. Carai Gymru â'i holl galon. a gweithiodd yn galed drosti ar hyd ei oes.

Carai blant Cymru, ac ni byddai dim gwell ganddo nag ysgrifennu straeon i'w diddori. Efallai eich bod wedi darllen "Llyfr Del" neu "Lyfr Nest." Dyma i chwi lyfrau eto,—bydd dau ohonynt,—tebyg iddynt hwy, yn llawn straeon.

Wedi i chwi eu darllen, efallai y deuwch i garu Cymru a'r Gymraeg fel y carodd Syr Owen hwy ar hyd ei oes.