Tudalen:Llyfr Owen.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I

CARAIMAN

[Yr oedd Carmen Sylva, cyn-frenhines Rwmania, yn hoff iawn o Gymru. Holai'r beirdd pa chwedlau a adroddid gan y werin ar hirnos gaeaf; yr oedd hi ei hun wedi casglu chwedlau Rwmania. Bu yn Eisteddfod y Rhyl, ymhlith y beirdd. Rhoddodd anrhydedd mawr arnaf,—gofynnodd i mi gyfieithu ei chwedlau er mwyn plant Cymru. Y mae blynyddoedd meithion er hynny, ac y mae'r frenhines hoffus yn ei bedd. Nid wyf innau wedi cyflawni f'addewid. Gwell hwyr na hwyrach. Bydd yn dda gan blant Cymru gael rhai o'r chwedlau a adroddir wrth blant Rwmania,—Caraiman, Chlestacoff, a'r Graig Losg.

1 HANNER cylch o fynyddoedd mawr, coediog, a gwastadedd eang o feysydd gwenith yn eu mynwes,?—dyna Rwmania. Yr oedd y mynyddoedd, sef y Carpathiaid, yno erioed. Ond nid oes fawr er pan gododd y dyffryn bras, cyfoethog, o'r môr.

Pan oedd y dyffryn eto'n newydd, yr oedd dyn cawraidd, o'r enw Caraiman, yn byw yn y mynyddoedd. Dywedir llawer wrth blant Rwmania am ei faint,—hyd ei goesau a'i freichiau a'i farf, lled ei ysgwyddau, maint ei lygaid. Ond digon i mi yw dweud am faint yr offeryn a ganai; oherwydd mewn miwsig yr oedd nerth Caraiman.

2. Pipgod oedd ei offeryn. Gwyddoch beth yw honno; hwyrach i chwi weld Ysgotyn yn ei chanu. Wel, yr oedd bôn y bipgod cyhyd a'r binwydden dalaf; ac yr oedd yswigen dan fraich y cerddor i wasgu gwynt iddi ac ohoni, gymaint â thŷ.