Tudalen:Llyfr Owen.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A phipgod ryfedd oedd honno. Pe chwythai Caraiman fiwsig tyner yn ysgafn gwelid blagur ieuanc, tyner, yn tyfu, a defaid ac ŵyn yn codi megis o'r ddaear, a lluoedd o blant bychain. Pe chwythai Caraiman yn gymedrol gryf, tyfai coed a drain, codai teirw a moch o'r ddaear, a lluoedd o wŷr a gwragedd. Pe chwythai'n gryf. gan wneud miwsig croch, deuai tymhestloedd gerwin, llifogydd dinistriol, a rhyfeloedd enbyd. Dyna'r fath bipgod oedd gan Garaiman.

3. Rhyw fore, wrth edrych i lawr dyffryn Prahofa, o'r Carpathiaid, beth welai'r cawr, yn lle môr fel o'r blaen, ond dyffryn gwastad eang. a'r môr wedi treio oddiarno. A heb feddwl am neb arall, tybiodd mai ef oedd piau'r dyffryn newydd.

"Beth wnaf a'm dyffryn?" eb ef.

Dechreuodd feddwl pa un ai miwsig tyner ynteu miwsig cymedrol, ynteu miwsig brochus a anadlai dros y dyffryn newydd. Gwyddai am effaith miwsig brochus. Deuai daeargryn, a llosgfynydd- oedd, a rhyfeloedd yn enwedig. "Na," meddai. "rhof heddwch i' m dyffryn newydd" Yna meddyliodd am fiwsig cymedrol. Ond cofiodd beth oedd dynion. Cwynent ar blant o hyd, eu bod yn ddrwg ac yn flysig, ac eu bod am bopeth iddynt hwy eu hunain. "Ond," meddai, "y mae pobl yn llawer gwaeth na phlant. Gwnânt ddrygau mwy a dywedant, â wyneb difrifol, fod eu drwg hwy yn dda. Ac ymladdant â'i gilydd hyd farw. Na. nid wyf am bobl i'm dyffryn newydd i."