Tudalen:Llyfr Owen.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac felly anadlodd fiwsig tyner iawn dros ddyffryn Rwmania, o holl gyrrau'r mynyddoedd at yr afon Daniwb a'r Môr Du. Ac yn sŵn y miwsig daeth blagur gwyrdd, tyner, dros y llaid tywodlyd. Yna codai defaid ac ŵyn yma ac acw. Ac yna gwelid torfeydd o blant yn chwarae'n hapus. Rhoddodd y cawr un nodyn ag ychydig o graster ynddo, ac wele nifer o gŵn ffyddlon, diniwed. " Dyna ddigon ar hyn o bryd." A rhoddodd yr offeryn o'r neilltu.

4. Lle dedwydd iawn oedd yno. Medrai'r plant odro'r defaid; ac ar laeth felly yr oeddynt yn iach a chryfion. Yr oedd yno ffrwythau gyda'r glaswellt hefyd,-eirin, grawnwin, mefus,-a'r cwbl ar goed bychain yng nghyrraedd plant. Yr oedd y plant yn garedig iawn wrth ei gilydd, ac nid oeddynt wedi dysgu un gair cas. Am gweryla neu bwdu neu ddigio, ni wyddent beth oedd pethau felly. Os syrthient i'r afon, deuai'r cŵn ffyddlon ar unwaith i'w gwaredu. Mwsogl sych oedd eu gwelyau, dan gysgod craig. Ni byddai yno ystorm; deuai sŵn esmwyth pipgod Caraiman i dawelu pob gwynt, ac i dawelu pob chwa. Nid oedd yno ysgol, nid oedd eisiau i'r plant ddysgu dim. Ac ni bu plant bach dedwyddach na gwell yn unlle erioed.

5. Ond cyn hir tyfasant yn fawr. A daeth newid drostynt. Dechreuodd rhai ohonynt ddweud mai eu heiddo hwy oedd rhyw lecyn, ac na chai neb ddod yno ond hwy; dywedent hefyd mai eu heiddo hwy oedd rhyw ddefaid, ac na chai neb arall eu godro. A daeth ffraeo, a dig, a chas i'w plith.