Tudalen:Llyfr Owen.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofer yr anadlai Caraiman fiwsig tyner arnynt o'r mynydd, a gorfu iddo ef ei hun ddod i lawr i'r dyffryn i'w mysg.

Rhannodd y dyffryn rhyngddynt. " Os mynnwch dir," eb ef, " rhaid i chwi ei drin." A gwnaeth ei randir yn ardd i bob un. Ond, os drwg cynt, gwaeth wedyn. Yr oedd rhai o'r plant yn weithgar, a rhai yn ddiog. Yr oedd gerddi y rhai gweithgar yn llawn o bob ffrwythau da, ac yn hyfryd i edrych arnynt. Ond am erddi y rhai diog, nid oedd ynddynt hwy ond chwyn. A fu y rhai diog farw o newyn? Ni chodiaf i fawr. Yr oedd ychwaneg ohonynt nag o rai gweithgar, a mynasant fynd i'r gerddi llawnion, i ddifa ac i ladrata, a chododd rhyfel yn eu mysg.

6. Yn ofer y canai Caraiman ei bipgod. Nid oedd arnynt ei ofn wedi ei weled. "Y mae'n hen," meddent." mwsogl yw ei farf, rhisgl yw ei wisg, a pheth digon diolwg a diles yw ei bipgod." A phenderfynodd y rhai drwg diog fynd â'i ddyffryn oddiarno.

Aethant i'r mynydd, a rhoddasant ei farf ar dân. Ond wrth anadl ei chwarddiad, chwalwyd hwy fel dail gwyw. Ceisiasant rwymo ei fraich, ond â'i fraich arall gwasgarodd hwy ar hyd y mynydd. Ond, o'r diwedd, aeth rhai ohonynt ar hyd y nos, a thorasant dwll yn yswigen ei bipgod.

Ac ar ôl hynny ni ddaeth y miwsig i lawr dyffryn Prahofa mwy. Ni welwyd Caraiman ychwaith, a thybir ei fod yn cysgu dan y mynydd, hyd nes y daw rhywun heddychol i atgyweirio ei bipgod.