Tudalen:Llyfr Owen.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Felly, pan ddywedodd Chlestacoff fod gŵr y tŷ'n ddigon haerllug i godi tâl am ei fwyd a'i ddiod, rhoddodd y Llywodraethwr ei bwrs iddo ar unwaith, ac yr oedd yn falch o'r cyfle.

Gwelodd Chlestacoff sut yr oedd y gwynt yn chwythu, ac yr oedd wrth ei fodd. Deuai llawer o bobl ato i gwyno ar y Llywodraethwr, cymerai yntau'r gŵyn; cymerai rodd gan bob un hefyd, a dodai hi yn ei boced. Yna atgofiai'r Llywodraethwr am ei orthrwm ac am ei fynych ysbeilio; câi roddion gwerthfawr gan hwnnw hefyd. Daeth Chlestacoff yn ŵr mawr yn y lle hwnnw. O'r diwedd, dywod y Llywodraethwr, er ei ddirfawr lawenydd fod Chlestacoff a'i fryd ar briodi ei ferch Mari. Ac eb ef wrth ei wraig,—"Ychydig feddyliaist, wrth fy mhriodi i, y caet fod yn fam yng nghyfraith i uchel swyddog. "A'i freuddwyd yntau oedd,—cael cneifio pobl y dref o bopeth oedd ganddynt, ac edrych i lawr arnynt fel pe buasent dom yr heolydd. Onid ef a fyddai tad yng nghyfraith y swyddog?

Penodwyd dydd y briodas. Dywedodd Chlestacoff fod yn rhaid iddo fynd i ymweled â'i ystâd cyn e briodas. Daeth y dydd, ond ni ddaeth Chlestacoff. Yr oedd wedi anfon llythyr at gyfaill iddo ym Moscow, i adrodd fel yr oedd yn medru trin y ffyliaid. A phan oedd cyfeillion y Llywodraethwr yn disgwyl am y priodfab, wele'r llythyr- gludydd yn dod â'r llythyr hwnnw, yr oedd wedi digwydd ei agor, ac yn ei ddarllen iddynt i gyd.