ar graig neu fur hyd nes y peidiai ei chalon â churo. Ddydd a nos, dychmygai weld Tannas yn ing angau, neu'n farw oer.
2. Rhyw noson, clywai guro ysgafn ar ei ffenestr. Yng ngolau'r lleuad tybiai weled wyneb Tannas. Aeth allan, a dyna pwy oedd.
"Tannas!" ebr hi mewn syndod, "ai ti yw?"
"Ie," eb y gŵr ieuanc dychrynedig, gwelw, "oni weli dy fodrwy am fy mys, a'th arwydd ar fy ngwddf? "
"Pwy a ddywedodd wrthyt am adael y fyddin?"
"Neb. Deuthum o honof fy hun."
"Ond onid yw'r gelyn yn ein gorchfygu? Onid oes bechgyn eraill yn marw dros eu gwlad? Pa fodd y gellaist eu gadael?"
"Yr oedd arnaf hiraeth am danat. Ac y mae cariad yn gryfach na dim."
Fflachiodd dig a dirmyg o lygaid duon, byw, yr eneth, a dywedodd:
"Ffiaidd gennyf fuasai llwfrddyn yn gariad. Dos yn dy ôl ar dy union i'r gad."
"Yr wyt yn fy ngyrru'n ôl i ddinistr ac angau sicr. Y mae'r rhyfel yn ofnadwy. Ac yr wyt i fod yn wraig i mi."
"Bydd y graig acw wedi llosgi cyn y byddaf yn wraig i ti. Dos cyn i'r dydd dorri. Buasai'n gywilydd gennyf i neb dy weld."
"Ni chaf dy weld byth mwy," ebr y gŵr ieuanc, a dringodd y mynydd ar y Lieder, a'i wyneb tua'r gad.