Tudalen:Llyfr Owen.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3. Yr oedd y gelyn yn neshau. Yr oedd brwydr ffyrnig, waedlyd, ar lechweddau Bucegi. Ac er braw a syndod i'r pentref, gwelid y graig wgus i fyny fry yn eirias, yn llosgi'n loyw yn nüwch y nos. Yr oedd angerdd tân yr ymladd yn llosgi'r mynydd ei hun. Ac o! ddioddef a dolefain y marw oedd yno ar ddiwedd dydd y frwydr. "Fy mam," meddai Palma, "yr wyf yn mynd ar daith, ond ni byddaf i ffwrdd yn hir." Gwelai'r fam fod ganddi lestr dwfr, a thorth fechan; ac ni ddywedodd air, ond wylo'n ddistaw.

Dringodd Palma'r mynydd fel yr ewig, ac ar fin nos cyrhaeddodd gwr maes yr ymladdfa. Gwersyllai byddin fawr y Rwmaniaid ar y gwastadedd odditanodd, a thanau y gwylwyr o'u hamgylch. Yr oeddynt wedi hyrddio'r gelyn oddiar y mynydd, ond yr oedd eu lludded mor fawr fel y cysgent yn y lle y safent pan beidiodd y frwydr.

4. Ac ar ochrau'r mynydd, rhwng Palma a hwy, yr oedd maes yr ymladdfa. O'r llethrau hyn ni chlywid dim ond ochain y clwyfedig. Ychydig oedd nifer y meddygon a'r gweinyddesau, ac yr oedd y rhai hynny yn lluddedig yng nghwsg. Ni welid ond ambell anfad wraig yn ysbeilio'r marw. Crwydrodd Palma ymysg y rhai a orweddai, rhai yn hirgwsg angau, rhai mewn cwsg anesmwyth, rhai'n effro gan boen. Edrychai ar wyneb pob un yn graff a phryderus. Yr oedd gwên dawel ar wyneb ambell un, fel pe syrthiasai wrth feddwl am ei gartref. Griddfannai eraill yn eu poen, a