Tudalen:Llyfr Owen.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V

HANS CRISTION ANDERSEN

1. YR oedd gŵr enwog unwaith yn ninas Copenhagen, yr hon, fel y gwyddoch, yw prifddinas Denmarc. Ac oherwydd ei enwogrwydd fel llenor, penderfynodd ei gydwladwyr, y Daniaid, godi cofgolofn o fynor gwyn iddo yn ystod ei fywyd. Dangoswyd cynllun y gofgolofn iddo; a phan welodd hi, beth a wnaeth ond gwylltio a blagardio.

Y rheswm oedd eu bod wedi rhoi nifer o blant i sefyll o'i amgylch yn y cerflun, yn ei edmygu ac yn ei anwylo. "Ni fynnaf monynt," meddai. "Ni fynnaf mo'r pethau bach digrif o'm cwmpas. Nid bardd plant wyf i, ond bardd pobl. Ewch â hwy i ffwrdd. Ni fedrwn i byth adrodd ystori a phlant yn gwasgu yn fy erbyn, neu'n dringo ar fy nglin neu ar fy nghefn. Ni fynnaf mo blantos Copenhagen i dyrru o'm cwmpas."

2. Ond fel llenor y plant y cofir am Hans Cristion Andersen. Yr ydych, hwyrach, wedi clywed rhai o'i ystraeon. Un ohonynt ydyw ystori Inger. yr eneth fach falch a roddodd dorth yn y ffos i gamu trosodd, rhag difwyno'i hesgidiau newydd. Un arall yw ystori yr hwyaden fach hyll, a fu dan wawd a dirmyg ymysg yr hwyaid oherwydd hagrwydd ei choesau hirion, afrosgo, ond a ddaeth yn harddach na'r un ohonynt wrth dyfu, oherwydd