Tudalen:Llyfr Owen.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai alarch oedd hi. Ef hefyd a adroddodd hanes yr eneth fach a werthai fatsus ac a'u taniodd ar noson eiriog i weled ei ffordd i'r nefoedd.

Ond ychydig o'r plant a adwaeni sydd yn gwybod fath un oedd adroddwr yr ystorìau. A hoffech chwi wybod? Wel, gwrandewch, ynteu.

3. Mab i grydd oedd Hans Cristion Andersen. Ganwyd ef Ebrill 2, 1805; ac yr oedd llawer yn meddwl y buasai yn fwy priodol pes ganesid ddiwrnod yn gynt. Oherwydd bachgen digrif yr olwg arno, a chwerthinllyd o hyll, oedd. Ond ystyriai ef ei hun yn fachgen hardd ac urddasol, llawn o bwysigrwydd ac athrylith; ac wrth ei weld yn cerdded, â'i ben yn y gwynt, chwarddai'r bobl fwy.

Pentref Odense, ar ynys Funen, un o ynysoedd Denmarc, oedd ei gartref. Yr oedd ei dad yn ddyn breuddwydiol; yn byw, nid ynghanol ei dwr esgidiau, ond mewn cestyll yn yr awyr. Ac un felly oedd y bachgen; a thra gwawddi pawb ei gampau anystwyth—y dawnsio, y barddoni. a'r pendroni—fe'i gwelid ef ei hun ar Iwybr llwyddiant a bri anfarwol.

Pan yn bedair ar ddeg oed, newydd ei dderbyn at yr ordinhad, trodd ei gefn ar yr ynys, ac aeth i Copenhagen, i wneud ei fìortiwn. Ac yno y bu, druan, yn gyfì gwawd y cantorion a'r beirdd; ond yn dal i gredu'n ffyddiog ynddo ef ei hun. Ac o'r diwedd dechreuodd pobl gredu bod rhywbeth yn y bachgen rhyfedd, heglog, dilun, wedi'r cwbl.