Tudalen:Llyfr Owen.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dechreuodd deithio, a darluniodd ei "Droeon" mewn llyfrau diddorol—gwlad wastad Jutland, mynyddoedd yr Harts, yr Eidal, yr Yswisdir, a Ffrainc. Yna daeth caneuon, dramodau, a nofelau. Ond, pan ddechreuodd ysgrifennu storïau i blant, daeth pawb i'w edmygu. A cheid mab diolwg y crydd o'r ynys bell—un prin y credid ei fod cyn galled a bechgyn eraill—yn un a urddasol groesawid yn llŷs y brenin ei hun.

Caled a didrugaredd fu'r bechgyn eraill wrtho; ac y mae'n debyg na fu ef yn teimlo fel bachgen erioed. Ond medrai daflu rhyw swyn rhyfedd i hen ystraeon plant. Ac oni bai am y rhai hynny, ni buasai neb yn cofìo am ei enw heddiw. Bu farw Awst 4, 1875, yn ei dŷ ger Copenhagen; a galarodd gwlad serchog amdano.

VI

PEN BENDIGAID FRÂN

1. YR oedd y frwydr rhwng y Cymry a'r Gwyddelod yn un galed. Croesodd Cymry Bendigaid Frân Iwerddon i ddial cam Branwen ferch Lŷr a chwaer Brân.

Ymladdai'r Cymry'n bybyr, ond yn ofer. Oherwydd yr oedd gan y Gwyddelod bair neu grochan haearn mawr. Ac wedi cynneu tân mawr dano, taflent eu lladdedigion i'r pair bob nos.