Tudalen:Llyfr Owen.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A gwelech ryfeddod,—erbyn y bore byddai pob Gwyddel marw wedi dod yn Wyddel byw, ac yn barod i ail ddechrau ymladd. A phan welodd y Cymro, a. achosodd yr anghydfod, sef Efnisien, mor druan oedd hi ar ei gydwladwyr, mynnodd gael ei daflu i'r pair dadeni. A gwnaeth ymdrech i ymestyn yn y pair, nes torrodd y pair yn bedwar darn, a thorrodd ei galon yntau.

Ond nid oedd o Gymry'n fyw ond naw pan yn troi adref o'r Iwerddon, ac o'r naw yr oedd Bdndigaid Frân wedi ei glwyfo'n angheuol â phicell wenwynig. A dywedodd Brân wrth y lleill:

"Torrwch fy mhen oddiwrth fy nghorff, ac ewch ag ef i'r Gwynfryn yn Llundain, a chleddwch ef yno a'i wyneb at Ffrainc. Chwi a fyddwch ar y ffordd yn hir. Byddwch saith mlynedd yn Harlech ar ginio, ac adar Rhiannon yn canu i chwi. A bydd y pen yn gystal cwmni i chwi ag y bum i erioed. A byddwch bedwar ugain mlynedd yng Ngwalas. hyd oni agorwch y drws sydd yn edrych ar Aber Henfelen a Chernyw. A phan agorwch y drws hwnnw, ni ellwch aros yno'n hwy. Ewch i Lundain."

2. Ac aeth yr wyth, a'r pen gyda hwy, i'r môr ar eu ffordd adref. Daethant i Aber Alaw ym Môn. Ac yno edrychodd Branwen yn ôl ar Iwerddon, ac ar Gymru, a dodi ochenaid fawr, a thorri ei chalen. A gwnaed bedd iddi yng nglan Alaw. Daeth y saith oedd yn weddill i Harlech, ac yno y buont ar ginio yng nghwmni difyr pen Brân. Am