Tudalen:Llyfr Owen.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2. Ar y talpiau creigiau hyn y mae llanerchau gleision, ac y mae'r glaswellt sydd yn tyfu yno yn felys iawn i ddefaid. Weithiau crwydra dafad i lawr, o dalp i dalp, hyd wyneb y graig, a'i hoen gyda hi. Mae'r glaswellt yn felys ar y llecynnau perygl hyn, ac y mae'r ddafad am i'w hoen gael y tamaid melysaf. Nid yw'n cofio na all hi na'i hoen byth ddringo i fyny yn ôl. O'r diwedd, deuant at dalp na allant fynd yn is nag ef,—nid oes ond gwagle erchyll dano. Bwytânt y gwellt melys yn awchus. Cyn hir bwytânt ef i gyd. Yna daw newyn. Gorwedd y ddau yno, yn rhy wan ac ofnus i symud.

Ond gwêl y bugail hwy. Geilw ar ei gymdogion. Ant i ben y mynydd, lle y dechreuodd y ddafad grwydro i lawr. Rhoddir rhaff am ganol un o'r bugeiliaid. Yna gollyngir ef i lawr yn araf hyd wyneb y graig. O'r diwedd daw at y dibyn craig lle mae'r ddafad a'r oen wedi gorwedd i farw. Ni syfl yr un o'r ddau, gwyddant trwy reddf mai cwympo a wnânt dros y graig i'r dyfnder odditan odd, ac y mae ar hyd yn oed oen ofn marw. Cymer y bugail yr oen yn ei freichiau. Yna tynnir ef a'i faich i fyny gerfydd y rhaff. Yna disgyn drachefn, a daw â'r ddafad grwydredig, ffôl, a gwan, i fyny yn ei gôl. Ceisia'r ddafad a'r oen sefyll, ond y maent yn gwegian uwch ben eu traed gan wendid. Eto, fel rheol, deuant i bori, i gerdded, ac i redeg cyn hir. Ond y mae rhai defaid yn byw yn y creigiau peryglus, ac nid oes neb erioed wedi eu nodi na'u cneifio.