Tudalen:Llyfr Owen.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mewn ambell fan y mae coed eirin Mair yn tyfu yn nannedd y creigiau. Rhyw aderyn a aeth a'r hadau yno. Daw blodau ar y coed bob blwyddyn, ac eirin, ond nid oes neb ond adar a fedr fynd yn agos atynt.

3. Y mae eisiau llygad clir, pen sefydlog, a throed sicr i ddringo mynyddoedd yn ddiberygl; ac nid oes ond profiad maith a fedr roddi y rhai hyn. Cerdda un yn ddiogel a didrafferth lle y penfeddwa ac y syrthia'r llall.

Er hynny, siwrnai hyfryd yw'r siwrnai i ben yr Aran, o lawer cyfeiriad; a gall plentyn pedair oed ei cherdded. Gwn am un a wnaeth hynny.

Fel yr eir i fyny, y mae'r golygfeydd yn newid, ac yn ymehangu. Daw bryniau uchel, wedi eu dringo a mynd yn uwch na hwy, yn bethau bychain distadl i lawr odditanom. Daw rhywbeth newydd i'r golwg o hyd. Dacw Lyn Tegid, fel llen hir o arian, a mwg tref y Bala fel cwmwl ysgafn yn ei ben draw. I gyfeiriad arall, wele aber afon Mawddach, a phont Abermo yn rhimyn hir main, yn ei chroesi. Ar un llaw wele fryniau bronnog, gleision, Powys, bron heb rif; ar y llaw arall wele fynyddoedd creigiog Gwynedd, a'r Wyddfa fel brenhines yn eu canol.

4. Mae'r blodau'n newid fel yr awn i fyny. Ar y dechrau gwelem frenhines y weirglodd aroglus, a'i blodau melynwyn, prydferth, yn rhoi rhyw gyfaredd i bob nant; a'r glaswenwyn, yntau yn ei fri yn Awst; a'r pengaled coch; a llu o flodau melyn,