VIII
Y TRWYN AUR
1. Y MAE pawb, i fesur mwy neu lai, yn dymuno am rywbeth nad yw'n eiddo iddo, fel plentyn yn estyn ei law yn ofer at loyn byw.
Pobl gynnil a darbodus iawn yw pobl Ffrainc. Nid oes odid wraig na wna ei gorau i gadw ychydig arian wrth gefn, yn lle eu gwario i gyd. Bum yn nhai y Ffrancod lawer gwaith, ac y mae gennyf gof melys amdanynt,—yr aelwyd lân, gysurus, y cynildeb gonest, a'r bwyd da.
2. Gŵr a gwraig hapus oedd Jean a Marie. Gweithiai Jean yn galed, ac yr oedd yn hapus gysglyd wrth y tân siriol pan elai'n rhy dywyll i weithio. Yr oedd yn foddlon ar ei fyd, ac yn barod i chwerthin yn llawen bob amser. Prin o ddychymyg oedd, gwell oedd ganddo feddwl am bethau fel yr oeddynt, a gwenu.
Yr oedd Marie'n bur wahanol. Codai lawer castell yn yr awyr, a byddai byw yn hapus ynddynt. Adroddai ei dychmygion wrth Jean weithiau, ac ni wnai ef ond gwenu, a dweyd bod ei chwmni hi yn ddigon o foddhad a chysur iddo ef. Rhyw fin nos. gwnaeth breuddwydion Marie iddi deimlo braidd yn anfoddog, ac eb hi wrth Jean: