Tudalen:Llyfr Owen.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yna syllodd Marie ar sirioldeb y tân. Gwnâi ei sirioldeb croesawgar ef yn dlysach na gwisg euraidd rhiain y Tylwyth Teg.

4. "Wel di," ebr Marie" mor braf yw'r tân yma. Y mae'n ddigon gwresog i rostio wynionyn wrtho. Ac mor hyfryd y cysgwn ar ôl wynionyn iach caled wedi ei rostio. O mi hoffwn gael wynionyn, nid oes arnaf eisiau un mawr." Prin yr oedd y geiriau oddiar ei thafod, na ddaeth wynionyn bach, caled, i lawr y simnai ar yr aelwyd.

"Wel," ebr Jean, " dyna ti wedi cael dy ddymuniad cyntaf. Nid yw'n llawer o beth, ond gallasit ddymuno un gwaeth." Ond pan welodd y siomiant ar wyneb ei wraig, a'r siomiant hwnnw'n hanner digllon, tawodd â sôn.

5. "Wel, dyma dro," ebr Marie, "mor ddifeddwl ac ynfyd y bum. Yr wyf yn barod i feddwl am unrhyw benyd am fy ffolineb. Bron na ddymunwn i'r hen wynwyn acw fod yn sownd wrth fy nhrwyn, er mwyn i'w arogl_____."

Yna gwelodd bod Jean yn edrych yn syn arni, ac nid oedd yr wynionyn i'w weled yn unlle. "Ar beth wyt ti'n edrych?" ebr hi braidd yn ffrom. "Ar dy drwyn di, fy ngeneth annwyl i."

Rhoddodd Marie ei llaw ar ei thrwyn, a beth a deimlai yno ond yr hen wynionyn. Yr oedd trwyn Marie'n drwyn hardd, heb fod yn rhy smwt