Tudalen:Llyfr Owen.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IX

GWLAD YR HAUL

1. PERSIA yw gwlad yr haul; hi, yn ôl pob tebyg, yw gwlad fwyaf heulog y byd. Yr haul oedd duw yr hen Bersiaid, ac addolent dân fel yr elfen fywydol, bur.

Y peth cyntaf a dyn sylw un dieithr yn y wlad yw disgleirdeb a thanbeidrwydd digwmwl yr haul. O'r ochr arall, pan ddaw Persiad i'n gwlad gymylog a glawog ni y peth cyntaf a ysgrifenna adref ydyw mai gwlad heb haul i'w weled ynddi ydyw Prydain.

Bûm yn darllen hanes boneddiges a dreuliodd rai blynyddoedd yn ninasoedd Persia. Deffrôdd ryw fore, yn hwyrach o awr nag arfer. Synnai nad oedd sŵn neb wedi codi o'i blaen i'w glywed. Daeth i lawr cyn hir. Ond nid oedd yno arwydd am frecwast. Daeth gwas heibio, a gofynnodd hithau paham ynghanol bore felly, yr oedd y tŷ fel pe buasai pawb wedi marw ynddo. Ac ebr y gwas, gan ddal ei ddwylo i fyny : Ond oni wyddoch, madam, ei bod yn bwrw glaw!

Ac erbyn deall, y mae glaw yn beth mor anghyffredin yn y wlad heulog honno, fel y bydd masnach a gwaith a phopeth yn distewi ac yn aros hyd nes peidia'r glaw â disgyn.