Tudalen:Llyfr Owen.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR INDIAD COCH

X

YR INDIAID CYMREIG

1. TUA chan mlynedd yn ôl sonnid llawer am ryddid dyn, ac am hawl pawb i fod yn annibynnol. Ac wrth fod Indiaid cochion yn America mor annibynnol, mor anhyblyg, mor hoff o ryddid, telid llawer o sylw iddynt, a mawr oedd eu parch.

Yr adeg honno cofiwyd bod y trioedd Cymreig a hen feirdd yn sôn am dywysog a aeth ar goll ar y môr, sef Madog ab Owain Gwynedd. Aeth yn 1170, eb yr hanes, hyd Fôr Iwerddon, ac ymhell i Iwerydd dieithr, a gwelodd bethau rhyfedd. Yn 1172 aeth i'r môr drachefn gyda thri chant o wŷr, a throisant ben y cwch yn syth i'r gorllewin. Ni ddaethant byth yn ôl.

Ond ymhen rhyw chwe chant o flynyddoedd, pan dynnai Indiaid yr America sylw, cofiwyd am ddifancoll Madog ab Owain Gwynedd. A daeth sôn rhyfedd o'r America fod, ymysg yr Indiaid, lwyth neu ddau yn siarad Cymraeg! Bu teithiwr Americanaidd o'r enw Mr. Catlin yn byw gyda llwyth Indiaidd gwaraidd a charedig, a chyhoeddodd fod llawer o'u geiriau yn Gymraeg pur. Ac felly dywedodd y rhai oedd am foli Cymru nad Columbus a ddarganfu yr America, ond Cymro, sef Madog ab Owain Gwynedd, gannoedd o flynyddoedd cynt. A dywedent fod disgynyddion Madog a'i wŷr, sef y Madogwyr, yn byw yn awr ar lannau'r Miswri.